6 Canys yng Nghrist Iesu ni all enwaediad ddim, na dienwaediad; ond ffydd yn gweithio trwy gariad.
7 Chwi a redasoch yn dda; pwy a'ch rhwystrodd chwi, fel nad ufuddhaech i'r gwirionedd?
8 Y cyngor hwn nid yw oddi wrth yr hwn sydd yn eich galw chwi.
9 Y mae ychydig lefain yn lefeinio'r holl does.
10 Y mae gennyf fi hyder amdanoch yn yr Arglwydd, na syniwch chwi ddim arall: ond y neb sydd yn eich trallodi a ddwg farnedigaeth, pwy bynnag fyddo.
11 A myfi, frodyr, os yr enwaediad eto yr wyf yn ei bregethu, paham y'm herlidir eto? yn wir tynnwyd ymaith dramgwydd y groes.
12 Mi a fynnwn, ie, pe torrid ymaith y rhai sydd yn aflonyddu arnoch.