8 Y cyngor hwn nid yw oddi wrth yr hwn sydd yn eich galw chwi.
9 Y mae ychydig lefain yn lefeinio'r holl does.
10 Y mae gennyf fi hyder amdanoch yn yr Arglwydd, na syniwch chwi ddim arall: ond y neb sydd yn eich trallodi a ddwg farnedigaeth, pwy bynnag fyddo.
11 A myfi, frodyr, os yr enwaediad eto yr wyf yn ei bregethu, paham y'm herlidir eto? yn wir tynnwyd ymaith dramgwydd y groes.
12 Mi a fynnwn, ie, pe torrid ymaith y rhai sydd yn aflonyddu arnoch.
13 Canys i ryddid y'ch galwyd chwi, frodyr: yn unig nac arferwch y rhyddid yn achlysur i'r cnawd, ond trwy gariad gwasanaethwch eich gilydd.
14 Canys yr holl ddeddf a gyflawnir mewn un gair, sef yn hwn; Câr dy gymydog fel ti dy hun.