1 Y brodyr, os goddiweddir dyn ar ryw fai, chwychwi y rhai ysbrydol, adgyweiriwch y cyfryw un mewn ysbryd addfwynder; gan dy ystyried dy hun, rhag dy demtio dithau.
2 Dygwch feichiau eich gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Crist.
3 Oblegid os tybia neb ei fod yn rhyw beth, ac yntau heb fod yn ddim, y mae efe yn ei dwyllo ei hun.
4 Eithr profed pob un ei waith ei hun: ac yna y caiff orfoledd ynddo ei hun yn unig, ac nid mewn arall.
5 Canys pob un a ddwg ei faich ei hun.
6 A chyfranned yr hwn a ddysgwyd yn y gair â'r hwn sydd yn ei ddysgu, ym mhob peth da.