5 Canys pob un a ddwg ei faich ei hun.
6 A chyfranned yr hwn a ddysgwyd yn y gair â'r hwn sydd yn ei ddysgu, ym mhob peth da.
7 Na thwyller chwi; ni watwarir Duw: canys beth bynnag a heuo dyn, hynny hefyd a fed efe.
8 Oblegid yr hwn sydd yn hau i'w gnawd ei hun, o'r cnawd a fed lygredigaeth: eithr yr hwn sydd yn hau i'r Ysbryd, o'r Ysbryd a fed fywyd tragwyddol.
9 Eithr yn gwneuthur daioni na ddiogwn: canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn.
10 Am hynny tra ydym yn cael amser cyfaddas, gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig i'r rhai sydd o deulu'r ffydd.
11 Gwelwch cyhyd y llythyr a ysgrifennais atoch â'm llaw fy hun.