8 Oblegid yr hwn sydd yn hau i'w gnawd ei hun, o'r cnawd a fed lygredigaeth: eithr yr hwn sydd yn hau i'r Ysbryd, o'r Ysbryd a fed fywyd tragwyddol.
9 Eithr yn gwneuthur daioni na ddiogwn: canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddiffygiwn.
10 Am hynny tra ydym yn cael amser cyfaddas, gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig i'r rhai sydd o deulu'r ffydd.
11 Gwelwch cyhyd y llythyr a ysgrifennais atoch â'm llaw fy hun.
12 Cynifer ag sydd yn ewyllysio ymdecáu yn y cnawd, y rhai hyn sydd yn eich cymell i'ch enwaedu; yn unig fel nad erlidier hwy oblegid croes Crist.
13 Canys nid yw'r rhai a enwaedir, eu hunain yn cadw'r ddeddf; ond ewyllysio y maent enwaedu arnoch chwi, fel y gorfoleddont yn eich cnawd chwi.
14 Eithr na ato Duw i mi ymffrostio ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn y croeshoeliwyd y byd i mi, a minnau i'r byd.