30 Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o'r cryd: ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho amdani hi.
31 Ac efe a ddaeth, ac a'i cododd hi i fyny, gan ymaflyd yn ei llaw hi: a'r cryd a'i gadawodd hi yn y man; a hi a wasanaethodd arnynt hwy.
32 Ac wedi iddi hwyrhau, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant ato yr holl rai drwg eu hwyl, a'r rhai cythreulig.
33 A'r holl ddinas oedd wedi ymgasglu wrth y drws.
34 Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid; ac ni adawodd i'r cythreuliaid ddywedyd yr adwaenent ef.
35 A'r bore yn blygeiniol iawn, wedi iddo godi, efe a aeth allan, ac a aeth i le anghyfannedd; ac yno y gweddïodd.
36 A Simon, a'r rhai oedd gydag ef, a'i dilynasant ef.