Marc 13 BWM

1 Ac fel yr oedd efe yn myned allan o'r deml, un o'i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Athro, edrych pa ryw feini, a pha fath adeiladau sydd yma.

2 A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, A weli di'r adeiladau mawrion hyn? ni edir maen ar faen, a'r nis datodir.

3 Ac fel yr oedd efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd, gyferbyn â'r deml, Pedr, ac Iago, ac Ioan, ac Andreas, a ofynasant iddo o'r neilltu,

4 Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn? a pha arwydd fydd pan fo'r pethau hyn oll ar ddibennu?

5 A'r Iesu a atebodd iddynt, ac a ddechreuodd ddywedyd, Edrychwch rhag twyllo o neb chwi:

6 Canys llawer un a ddaw yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw Crist; ac a dwyllant lawer.

7 Ond pan glywoch am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd, na chyffroer chwi: canys rhaid i hynny fod; ond nid yw'r diwedd eto.

8 Canys cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: a daeargrynfâu fyddant mewn mannau, a newyn a thrallod fyddant.

9 Dechreuad gofidiau yw'r pethau hyn. Eithr edrychwch chwi arnoch eich hunain: canys traddodant chwi i'r cynghorau, ac i'r synagogau; chwi a faeddir, ac a ddygir gerbron rhaglawiaid a brenhinoedd o'm hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy.

10 Ac y mae yn rhaid yn gyntaf bregethu'r efengyl ymysg yr holl genhedloedd.

11 Ond pan ddygant chwi, a'ch traddodi, na ragofelwch beth a ddywedoch, ac na fyfyriwch: eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno, hynny dywedwch: canys nid chwychwi sydd yn dywedyd, ond yr Ysbryd Glân.

12 A'r brawd a ddyry frawd i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a gyfyd yn erbyn eu rhieni, ac a'u rhoddant hwy i farwolaeth.

13 A chwi a fyddwch gas gan bawb er mwyn fy enw i: eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.

14 Ond pan weloch chwi y ffieidd‐dra anghyfanheddol, yr hwn a ddywedwyd gan Daniel y proffwyd, wedi ei osod lle nis dylid, (y neb a ddarlleno, dealled;) yna y rhai a fyddant yn Jwdea, ffoant i'r mynyddoedd:

15 A'r neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddisgynned i'r tŷ, ac nac aed i mewn i gymryd dim o'i dŷ.

16 A'r neb a fyddo yn y maes, na throed yn ei ôl i gymryd ei wisg.

17 Ond gwae'r rhai beichiog, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny!

18 Ond gweddïwch na byddo eich fföedigaeth yn y gaeaf.

19 Canya yn y dyddiau hynny y bydd gorthrymder, y cyfryw ni bu'r fath o ddechrau y creaduriaeth a greodd Duw, hyd y pryd hwn, ac ni bydd chwaith.

20 Ac oni bai fod i'r Arglwydd fyrhau y dyddiau, ni chadwesid un cnawd: eithr er mwyn yr etholedigion a etholodd, efe a fyrhaodd y dyddiau.

21 Ac yna os dywed neb wrthych, Wele, llyma y Crist; neu, Wele, acw; na chredwch:

22 Canys gau Gristiau a gau broffwydi a gyfodant, ac a ddangosant arwyddion a rhyfeddodau, i hudo ymaith, pe byddai bosibl, ie, yr etholedigion.

23 Eithr ymogelwch chwi: wele, rhagddywedais i chwi bob peth.

24 Ond yn y dyddiau hynny, wedi'r gorthrymder hwnnw, y tywylla'r haul, a'r lloer ni rydd ei goleuni,

25 A sêr y nef a syrthiant, a'r nerthoedd sydd yn y nefoedd a siglir.

26 Ac yna y gwelant Fab y dyn yn dyfod yn y cymylau, gyda gallu mawr a gogoniant.

27 Ac yna yr enfyn efe ei angylion, ac y cynnull ei etholedigion oddi wrth y pedwar gwynt, o eithaf y ddaear hyd eithaf y nef.

28 Ond dysgwch ddameg oddi wrth y ffigysbren: Pan fo ei gangen eisoes yn dyner, a'r dail yn torri allan, chwi a wyddoch fod yr haf yn agos:

29 Ac felly chwithau, pan weloch y pethau hyn wedi dyfod, gwybyddwch ei fod yn agos, wrth y drysau.

30 Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, nad â'r oes hon heibio, hyd oni wneler y pethau hyn oll.

31 Nef a daear a ânt heibio: ond y geiriau mau fi nid ânt heibio ddim.

32 Eithr am y dydd hwnnw a'r awr ni ŵyr neb, na'r angylion sydd yn y nef, na'r Mab, ond y Tad.

33 Ymogelwch, gwyliwch a gweddïwch: canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser.

34 Canys Mab y dyn sydd fel gŵr yn ymdaith i bell, wedi gadael ei dŷ, a rhoi awdurdod i'w weision, ac i bob un ei waith ei hun, a gorchymyn i'r drysor wylio.

35 Gwyliwch gan hynny, (canys ni wyddoch pa bryd y daw meistr y tŷ, yn yr hwyr, ai hanner nos, ai ar ganiad y ceiliog, ai'r boreddydd;)

36 Rhag iddo ddyfod yn ddisymwth, a'ch cael chwi'n cysgu.

37 A'r hyn yr wyf yn eu dywedyd wrthych chwi, yr wyf yn eu dywedyd wrth bawb, Gwyliwch.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16