1 Ac yn y fan, y bore, yr ymgynghorodd yr archoffeiriaid gyda'r henuriaid a'r ysgrifenyddion, a'r holl gyngor: ac wedi iddynt rwymo'r Iesu, hwy a'i dygasant ef ymaith, ac a'i traddodasant at Peilat.
2 A gofynnodd Peilat iddo, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd.
3 A'r archoffeiriaid a'i cyhuddasant ef o lawer o bethau: eithr nid atebodd efe ddim.
4 A Pheilat drachefn a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Onid atebi di ddim? wele faint o bethau y maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn.
5 Ond yr Iesu eto nid atebodd ddim; fel y rhyfeddodd Peilat.
6 Ac ar yr ŵyl honno y gollyngai efe yn rhydd iddynt un carcharor, yr hwn a ofynnent iddo.
7 Ac yr oedd un a elwid Barabbas, yr hwn oedd yn rhwym gyda'i gyd‐derfysgwyr, y rhai yn y derfysg a wnaethent lofruddiaeth.
8 A'r dyrfa gan grochlefain, a ddechreuodd ddeisyf arno wneuthur fel y gwnaethai bob amser iddynt.
9 A Pheilat a atebodd iddynt, gan ddywedyd, A fynnwch chwi i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon?
10 (Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasai'r archoffeiriaid ef.)
11 A'r archoffeiriaid a gynyrfasent y bobl, fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt.
12 A Pheilat a atebodd ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthur i'r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iddewon?
13 A hwythau a lefasant drachefn, Croeshoelia ef.
14 Yna Peilat a ddywedodd wrthynt, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? A hwythau a lefasant fwyfwy, Croeshoelia ef.
15 A Pheilat yn chwennych bodloni'r bobl, a ollyngodd yn rhydd iddynt Barabbas; a'r Iesu, wedi iddo ei fflangellu, a draddododd efe i'w groeshoelio.
16 A'r milwyr a'i dygasant ef i fewn y llys, a elwir Pretorium: a hwy a alwasant ynghyd yr holl fyddin;
17 Ac a'i gwisgasant ef â phorffor, ac a blethasant goron o ddrain, ac a'i dodasant am ei ben;
18 Ac a ddechreuasant gyfarch iddo, Henffych well, Brenin yr Iddewon.
19 A hwy a gurasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan ddodi eu gliniau i lawr, a'i haddolasant ef.
20 Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddiosgasant y porffor oddi amdano, ac a'i gwisgasant ef â'i ddillad ei hun, ac a'i dygasant allan i'w groeshoelio.
21 A hwy a gymellasant un Simon o Cyrene, yr hwn oedd yn myned heibio, wrth ddyfod o'r wlad, sef tad Alexander a Rwffus, i ddwyn ei groes ef.
22 A hwy a'i harweiniasant ef i le a elwid Golgotha; yr hyn o'i gyfieithu yw, Lle'r benglog:
23 Ac a roesant iddo i'w yfed win myrllyd: eithr efe nis cymerth.
24 Ac wedi iddynt ei groeshoelio, hwy a ranasant ei ddillad ef, gan fwrw coelbren arnynt, beth a gâi pob un.
25 A'r drydedd awr oedd hi; a hwy a'i croeshoeliasant ef.
26 Ac yr oedd ysgrifen ei achos ef wedi ei hargraffu, BRENIN YR IDDEWON.
27 A hwy a groeshoeliasant gydag ef ddau leidr; un ar y llaw ddeau, ac un ar yr aswy iddo.
28 A'r ysgrythur a gyflawnwyd, yr hon a ddywed, Ac efe a gyfrifwyd gyda'r rhai anwir.
29 A'r rhai oedd yn myned heibio a'i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau, a dywedyd, Och, tydi yr hwn wyt yn dinistrio'r deml, ac yn ei hadeiladu mewn tridiau,
30 Gwared dy hun, a disgyn oddi ar y groes.
31 Yr un ffunud yr archoffeiriaid hefyd yn gwatwar, a ddywedasant wrth ei gilydd, gyda'r ysgrifenyddion, Eraill a waredodd, ei hun nis gall ei wared.
32 Disgynned Crist, Brenin yr Israel, yr awr hon oddi ar y groes, fel y gwelom, ac y credom. A'r rhai a groeshoeliesid gydag ef, a'i difenwasant ef.
33 A phan ddaeth y chweched awr, y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr.
34 Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eloi, Eloi, lama sabachthani? yr hyn o'i gyfieithu yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y'm gadewaist?
35 A rhai o'r rhai a safent gerllaw, pan glywsant, a ddywedasant, Wele, y mae efe yn galw ar Eleias.
36 Ac un a redodd, ac a lanwodd ysbwng yn llawn o finegr, ac a'i dododd ar gorsen, ac a'i diododd ef, gan ddywedyd, Peidiwch, edrychwn a ddaw Eleias i'w dynnu ef i lawr.
37 A'r Iesu a lefodd â llef uchel, ac a ymadawodd â'r ysbryd.
38 A llen y deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fyny hyd i waered.
39 A phan welodd y canwriad, yr hwn oedd yn sefyll gerllaw gyferbyn ag ef, ddarfod iddo yn llefain felly ymado â'r ysbryd, efe a ddywedodd, Yn wir Mab Duw oedd y dyn hwn.
40 Ac yr oedd hefyd wragedd yn edrych o hirbell: ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago fychan a Jose, a Salome;
41 Y rhai hefyd, pan oedd efe yng Ngalilea, a'i dilynasant ef, ac a weiniasant iddo; a gwragedd eraill lawer, y rhai a ddaethent gydag ef i fyny i Jerwsalem.
42 Pan ydoedd hi weithian yn hwyr, (am ei bod hi yn ddarpar‐ŵyl, sef y dydd cyn y Saboth,)
43 Daeth Joseff o Arimathea, cynghorwr pendefigaidd, yr hwn oedd yntau yn disgwyl am deyrnas Dduw, ac a aeth yn hy i mewn at Peilat, ac a ddeisyfodd gorff yr Iesu.
44 A rhyfedd oedd gan Peilat o buasai efe farw eisoes: ac wedi iddo alw y canwriad ato, efe a ofynnodd iddo a oedd efe wedi marw ers meitin.
45 A phan wybu gan y canwriad, efe a roddes y corff i Joseff.
46 Ac efe a brynodd liain main, ac a'i tynnodd ef i lawr, ac a'i hamdôdd yn y lliain main, ac a'i dododd ef mewn bedd a naddasid o'r graig; ac a dreiglodd faen ar ddrws y bedd.
47 A Mair Magdalen a Mair mam Jose a edrychasant pa le y dodid ef.