39 Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu synagogau hwynt trwy holl Galilea, ac yn bwrw allan gythreuliaid.
40 A daeth ato ef un gwahanglwyfus, gan ymbil ag ef, a gostwng ar ei liniau iddo, a dywedyd wrtho, Os mynni, ti a elli fy nglanhau.
41 A'r Iesu, gan dosturio, a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, Mynnaf, bydd lân.
42 Ac wedi iddo ddywedyd hynny, ymadawodd y gwahanglwyf ag ef yn ebrwydd, a glanhawyd ef.
43 Ac wedi gorchymyn iddo yn gaeth, efe a'i hanfonodd ef ymaith yn y man;
44 Ac a ddywedodd wrtho, Gwêl na ddywedych ddim wrth neb: eithr dos ymaith, dangos dy hun i'r offeiriad, ac offryma dros dy lanhad y pethau a orchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt hwy.
45 Eithr efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi llawer, a thaenu'r gair ar led, fel na allai'r Iesu fyned mwy yn amlwg i'r ddinas; eithr yr oedd efe allan mewn lleoedd anghyfannedd: ac o bob parth y daethant ato ef.