1 Ac efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i dueddau Jwdea, trwy'r tu hwnt i'r Iorddonen; a'r bobloedd a gydgyrchasant ato ef drachefn: ac fel yr oedd yn arferu, efe a'u dysgodd hwynt drachefn.
2 A'r Phariseaid, wedi dyfod ato, a ofynasant iddo, Ai rhydd i ŵr roi ymaith ei wraig? gan ei demtio ef.
3 Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Beth a orchmynnodd Moses i chwi?
4 A hwy a ddywedasant, Moses a ganiataodd ysgrifennu llythyr ysgar, a'i gollwng hi ymaith.
5 A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, O achos eich calon‐galedwch chwi yr ysgrifennodd efe i chwi y gorchymyn hwnnw:
6 Ond o ddechreuad y creadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt.
7 Am hyn y gad dyn ei dad a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig;