12 Ac os gwraig a ddyry ymaith ei gŵr, a phriodi un arall, y mae hi'n godinebu.
13 A hwy a ddygasant blant bychain ato, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a'r disgyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt.
14 A'r Iesu pan welodd hynny, fu anfodlon, ac a ddywedodd wrthynt, Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch iddynt: canys eiddo'r cyfryw rai yw teyrnas Dduw.
15 Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi.
16 Ac efe a'u cymerodd hwy yn ei freichiau, ac a roddes ei ddwylo arnynt, ac a'u bendithiodd.
17 Ac wedi iddo fyned allan i'r ffordd, rhedodd un ato, a gostyngodd iddo, ac a ofynnodd iddo, O Athro da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol?
18 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid oes neb da ond un, sef Duw.