16 Ac efe a'u cymerodd hwy yn ei freichiau, ac a roddes ei ddwylo arnynt, ac a'u bendithiodd.
17 Ac wedi iddo fyned allan i'r ffordd, rhedodd un ato, a gostyngodd iddo, ac a ofynnodd iddo, O Athro da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol?
18 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Paham y gelwi fi yn dda? nid oes neb da ond un, sef Duw.
19 Ti a wyddost y gorchmynion, Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na chamdystiolaetha, Na chamgolleda, Anrhydedda dy dad a'th fam.
20 Yntau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Athro, y rhai hyn i gyd a gedwais o'm hieuenctid.
21 A'r Iesu gan edrych arno, a'i hoffodd, ac a ddywedodd wrtho, Un peth sydd ddiffygiol i ti: dos, gwerth yr hyn oll sydd gennyt, a dyro i'r tlodion; a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, a chymer i fyny y groes, a dilyn fi.
22 Ac efe a bruddhaodd wrth yr ymadrodd, ac a aeth ymaith yn athrist: canys yr oedd ganddo feddiannau lawer.