23 A'r Iesu a edrychodd o'i amgylch, ac a ddywedodd wrth ei ddisgyblion, Mor anodd yr â'r rhai y mae golud ganddynt i deyrnas Dduw!
24 A'r disgyblion a frawychasant wrth ei eiriau ef. Ond yr Iesu a atebodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, O blant, mor anodd yw i'r rhai sydd â'u hymddiried yn eu golud fyned i deyrnas Dduw!
25 Y mae yn haws i gamel fyned trwy grau'r nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.
26 A hwy a synasant yn ddirfawr, gan ddywedyd wrthynt eu hunain, A phwy a all fod yn gadwedig?
27 A'r Iesu, wedi edrych arnynt, a ddywedodd, Gyda dynion amhosibl yw, ac nid gyda Duw: canys pob peth sydd bosibl gyda Duw.
28 Yna y dechreuodd Pedr ddywedyd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a'th ddilynasom di.
29 A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, o'm hachos i a'r efengyl,