27 A'r Iesu, wedi edrych arnynt, a ddywedodd, Gyda dynion amhosibl yw, ac nid gyda Duw: canys pob peth sydd bosibl gyda Duw.
28 Yna y dechreuodd Pedr ddywedyd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a'th ddilynasom di.
29 A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dad, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, o'm hachos i a'r efengyl,
30 A'r ni dderbyn y can cymaint yr awron y pryd hwn, dai, a brodyr, a chwiorydd, a mamau, a phlant, a thiroedd, ynghyd ag erlidiau; ac yn y byd a ddaw, fywyd tragwyddol.
31 Ond llawer rhai cyntaf a fyddant ddiwethaf; a'r diwethaf fyddant gyntaf.
32 Ac yr oeddynt ar y ffordd yn myned i fyny i Jerwsalem; ac yr oedd yr Iesu yn myned o'u blaen hwynt: a hwy a frawychasant; ac fel yr oeddynt yn canlyn, yr oedd arnynt ofn. Ac wedi iddo drachefn gymryd y deuddeg, efe a ddechreuodd fynegi iddynt y pethau a ddigwyddent iddo ef:
33 Canys wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a Mab y dyn a draddodir i'r archoffeiriaid, ac i'r ysgrifenyddion; a hwy a'i condemniant ef i farwolaeth, ac a'i traddodant ef i'r Cenhedloedd: