33 Canys wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a Mab y dyn a draddodir i'r archoffeiriaid, ac i'r ysgrifenyddion; a hwy a'i condemniant ef i farwolaeth, ac a'i traddodant ef i'r Cenhedloedd:
34 A hwy a'i gwatwarant ef, ac a'i fflangellant, ac a boerant arno, ac a'i lladdant: a'r trydydd dydd yr atgyfyd.
35 A daeth ato Iago ac Ioan, meibion Sebedeus, gan ddywedyd, Athro, ni a fynnem wneuthur ohonot i ni yr hyn a ddymunem.
36 Yntau a ddywedodd wrthynt, Beth a fynnech i mi ei wneuthur i chwi?
37 Hwythau a ddywedasant wrtho, Caniatâ i ni eistedd, un ar dy ddeheulaw, a'r llall ar dy aswy, yn dy ogoniant.
38 Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn: a ellwch chwi yfed o'r cwpan yr wyf fi yn ei yfed? a'ch bedyddio â'r bedydd y'm bedyddir i ag ef?
39 A hwy a ddywedasant wrtho, Gallwn. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o'r cwpan yr yfwyf fi; ac y'ch bedyddir â'r bedydd y bedyddir finnau: