39 A hwy a ddywedasant wrtho, Gallwn. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o'r cwpan yr yfwyf fi; ac y'ch bedyddir â'r bedydd y bedyddir finnau:
40 Ond eistedd ar fy neheulaw a'm haswy, nid eiddof fi ei roddi; ond i'r rhai y darparwyd.
41 A phan glybu'r deg, hwy a ddechreuasant fod yn anfodlon ynghylch Iago ac Ioan.
42 A'r Iesu a'u galwodd hwynt ato, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch fod y rhai a dybir eu bod yn llywodraethu ar y Cenhedloedd, yn tra‐arglwyddiaethu arnynt; a'u gwŷr mawr hwynt yn tra‐awdurdodi arnynt.
43 Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a ewyllysio fod yn fawr yn eich plith, bydded weinidog i chwi;
44 A phwy bynnag ohonoch a fynno fod yn bennaf, bydded was i bawb.
45 Canys ni ddaeth Mab y dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.