4 A hwy a ddywedasant, Moses a ganiataodd ysgrifennu llythyr ysgar, a'i gollwng hi ymaith.
5 A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, O achos eich calon‐galedwch chwi yr ysgrifennodd efe i chwi y gorchymyn hwnnw:
6 Ond o ddechreuad y creadigaeth, yn wryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt.
7 Am hyn y gad dyn ei dad a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig;
8 A hwy ill dau a fyddant un cnawd: fel nad ydynt mwy ddau, ond un cnawd.
9 Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, na wahaned dyn.
10 Ac yn y tŷ drachefn ei ddisgyblion a ofynasant iddo am yr un peth.