44 A phwy bynnag ohonoch a fynno fod yn bennaf, bydded was i bawb.
45 Canys ni ddaeth Mab y dyn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei einioes yn bridwerth dros lawer.
46 A hwy a ddaethant i Jericho. Ac fel yr oedd efe yn myned allan o Jericho, efe a'i ddisgyblion, a bagad o bobl, Bartimeus ddall, mab Timeus, oedd yn eistedd ar fin y ffordd, yn cardota.
47 A phan glybu mai'r Iesu o Nasareth ydoedd, efe a ddechreuodd lefain, a dywedyd, Iesu, mab Dafydd, trugarha wrthyf.
48 A llawer a'i ceryddasant ef, i geisio ganddo dewi: ond efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarha wrthyf.
49 A'r Iesu a safodd, ac a archodd ei alw ef. A hwy a alwasant y dall, gan ddywedyd wrtho, Cymer galon; cyfod: y mae efe yn dy alw di.
50 Ond efe, wedi taflu ei gochl ymaith, a gyfododd, ac a ddaeth at yr Iesu.