47 A phan glybu mai'r Iesu o Nasareth ydoedd, efe a ddechreuodd lefain, a dywedyd, Iesu, mab Dafydd, trugarha wrthyf.
48 A llawer a'i ceryddasant ef, i geisio ganddo dewi: ond efe a lefodd yn fwy o lawer, Mab Dafydd, trugarha wrthyf.
49 A'r Iesu a safodd, ac a archodd ei alw ef. A hwy a alwasant y dall, gan ddywedyd wrtho, Cymer galon; cyfod: y mae efe yn dy alw di.
50 Ond efe, wedi taflu ei gochl ymaith, a gyfododd, ac a ddaeth at yr Iesu.
51 A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Beth a fynni i mi ei wneuthur i ti? A'r dall a ddywedodd wrtho, Athro, caffael ohonof fy ngolwg.
52 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Dos ymaith: dy ffydd a'th iachaodd. Ac yn y man y cafodd efe ei olwg, ac efe a ddilynodd yr Iesu ar hyd y ffordd.