9 Y peth gan hynny a gysylltodd Duw, na wahaned dyn.
10 Ac yn y tŷ drachefn ei ddisgyblion a ofynasant iddo am yr un peth.
11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a roddo ymaith ei wraig, ac a briodo un arall, y mae yn godinebu yn ei herbyn hi.
12 Ac os gwraig a ddyry ymaith ei gŵr, a phriodi un arall, y mae hi'n godinebu.
13 A hwy a ddygasant blant bychain ato, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a'r disgyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt.
14 A'r Iesu pan welodd hynny, fu anfodlon, ac a ddywedodd wrthynt, Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch iddynt: canys eiddo'r cyfryw rai yw teyrnas Dduw.
15 Yn wir meddaf i chwi, Pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi.