25 Canys pan atgyfodant o feirw, ni wreicant, ac ni ŵrant; eithr y maent fel yr angylion sydd yn y nefoedd.
26 Ond am y meirw, yr atgyfodir hwynt; oni ddarllenasoch chwi yn llyfr Moses, y modd y llefarodd Duw wrtho yn y berth, gan ddywedyd, Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob?
27 Nid yw efe Dduw'r meirw, ond Duw'r rhai byw: am hynny yr ydych chwi yn cyfeiliorni'n fawr.
28 Ac un o'r ysgrifenyddion a ddaeth, wedi eu clywed hwynt yn ymresymu, a gwybod ateb ohono iddynt yn gymwys, ac a ofynnodd iddo, Pa un yw'r gorchymyn cyntaf o'r cwbl?
29 A'r Iesu a atebodd iddo, Y cyntaf o'r holl orchmynion yw, Clyw, Israel; Yr Arglwydd ein Duw, un Arglwydd yw:
30 A châr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl feddwl, ac â'th holl nerth. Hwn yw'r gorchymyn cyntaf.
31 A'r ail sydd gyffelyb iddo; Câr dy gymydog fel ti dy hun. Nid oes orchymyn arall mwy na'r rhai hyn.