36 Canys Dafydd ei hun a ddywedodd trwy'r Ysbryd Glân, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed.
37 Y mae Dafydd ei hun, gan hynny, yn ei alw ef yn Arglwydd; ac o ba le y mae efe yn fab iddo? A llawer o bobl a'i gwrandawent ef yn ewyllysgar.
38 Ac efe a ddywedodd wrthynt yn ei athrawiaeth, Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion, y rhai a chwenychant rodio mewn gwisgoedd llaesion, a chael cyfarch yn y marchnadoedd,
39 A'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r prif eisteddleoedd mewn swperau;
40 Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth fwy.
41 A'r Iesu a eisteddodd gyferbyn â'r drysorfa, ac a edrychodd pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian i'r drysorfa: a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer.
42 A rhyw wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling.