39 A'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r prif eisteddleoedd mewn swperau;
40 Y rhai sydd yn llwyr fwyta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddïo: y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth fwy.
41 A'r Iesu a eisteddodd gyferbyn â'r drysorfa, ac a edrychodd pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian i'r drysorfa: a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer.
42 A rhyw wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling.
43 Ac efe a alwodd ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fwrw o'r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na'r rhai oll a fwriasant i'r drysorfa.
44 Canys hwynt‐hwy oll a fwriasant o'r hyn a oedd yng ngweddill ganddynt: ond hon o'i heisiau a fwriodd i mewn yr hyn oll a feddai, sef ei holl fywyd.