1 Ac wedi deuddydd yr oedd y pasg, a gŵyl y bara croyw: a'r archoffeiriaid a'r ysgrifenyddion a geisiasant pa fodd y dalient ef trwy dwyll, ac y lladdent ef:
2 Eithr dywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bod cynnwrf ymhlith y bobl.
3 A phan oedd efe ym Methania, yn nhŷ Simon y gwahanglwyfus, ac efe yn eistedd i fwyta, daeth gwraig a chanddi flwch o ennaint o nard gwlyb gwerthfawr; a hi a dorrodd y blwch, ac a'i tywalltodd ar ei ben ef.
4 Ac yr oedd rhai yn anfodlon ynddynt eu hunain, ac yn dywedyd, I ba beth y gwnaethpwyd y golled hon o'r ennaint?
5 Oblegid fe a allasid gwerthu hwn uwchlaw tri chan ceiniog, a'u rhoddi i'r tlodion. A hwy a ffromasant yn ei herbyn hi.