13 Ac efe a anfonodd ddau o'i ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i'r ddinas; a chyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: dilynwch ef.
14 A pha le bynnag yr êl i mewn, dywedwch wrth ŵr y tŷ, Fod yr Athro yn dywedyd, Pa le y mae'r llety, lle y gallwyf, mi a'm disgyblion, fwyta'r pasg?
15 Ac efe a ddengys i chwi oruwchystafell fawr wedi ei thaenu yn barod: yno paratowch i ni.
16 A'i ddisgyblion a aethant, ac a ddaethant i'r ddinas; ac a gawsant megis y dywedasai efe wrthynt: ac a baratoesant y pasg.
17 A phan aeth hi yn hwyr, efe a ddaeth gyda'r deuddeg.
18 Ac fel yr oeddynt yn eistedd, ac yn bwyta, yr Iesu a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Un ohonoch, yr hwn sydd yn bwyta gyda myfi, a'm bradycha i.
19 Hwythau a ddechreuasant dristáu, a dywedyd wrtho bob yn un ac un, Ai myfi? ac arall, Ai myfi?