16 A'i ddisgyblion a aethant, ac a ddaethant i'r ddinas; ac a gawsant megis y dywedasai efe wrthynt: ac a baratoesant y pasg.
17 A phan aeth hi yn hwyr, efe a ddaeth gyda'r deuddeg.
18 Ac fel yr oeddynt yn eistedd, ac yn bwyta, yr Iesu a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, Un ohonoch, yr hwn sydd yn bwyta gyda myfi, a'm bradycha i.
19 Hwythau a ddechreuasant dristáu, a dywedyd wrtho bob yn un ac un, Ai myfi? ac arall, Ai myfi?
20 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Un o'r deuddeg, yr hwn sydd yn gwlychu gyda mi yn y ddysgl, yw efe.
21 Mab y dyn yn wir sydd yn myned ymaith, fel y mae yn ysgrifenedig amdano: ond gwae'r dyn hwnnw trwy'r hwn y bradychir Mab y dyn! da fuasai i'r dyn hwnnw pe nas ganesid.
22 Ac fel yr oeddynt yn bwyta, yr Iesu a gymerodd fara, ac a'i bendithiodd, ac a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt; ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch: hwn yw fy nghorff.