4 Ac yr oedd rhai yn anfodlon ynddynt eu hunain, ac yn dywedyd, I ba beth y gwnaethpwyd y golled hon o'r ennaint?
5 Oblegid fe a allasid gwerthu hwn uwchlaw tri chan ceiniog, a'u rhoddi i'r tlodion. A hwy a ffromasant yn ei herbyn hi.
6 A'r Iesu a ddywedodd, Gadewch iddi; paham y gwnewch flinder iddi? hi a wnaeth weithred dda arnaf fi.
7 Canys bob amser y cewch y tlodion gyda chwi; a phan fynnoch y gellwch wneuthur da iddynt hwy: ond myfi ni chewch bob amser.
8 Hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth: hi a achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y claddedigaeth.
9 Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er coffa amdani.
10 A Jwdas Iscariot, un o'r deuddeg, a aeth ymaith at yr archoffeiriaid, i'w fradychu ef iddynt.