41 Ac efe a ddaeth y drydedd waith, ac a ddywedodd wrthynt, Cysgwch weithian, a gorffwyswch: digon yw; daeth yr awr: wele, yr ydys yn bradychu Mab y dyn i ddwylo pechaduriaid.
42 Cyfodwch, awn; wele, y mae'r hwn sydd yn fy mradychu yn agos.
43 Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, daeth Jwdas, un o'r deuddeg, a chydag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffyn, oddi wrth yr archoffeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a'r henuriaid.
44 A'r hwn a'i bradychodd ef a roddasai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pwy bynnag a gusanwyf, hwnnw yw: deliwch ef, a dygwch ymaith yn sicr.
45 A phan ddaeth, yn ebrwydd efe a aeth ato, ac a ddywedodd, Rabbi, Rabbi; ac a'i cusanodd ef.
46 A hwythau a roesant eu dwylo arno, ac a'i daliasant ef.
47 A rhyw un o'r rhai oedd yn sefyll gerllaw, a dynnodd ei gleddyf, ac a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ef.