7 Canys bob amser y cewch y tlodion gyda chwi; a phan fynnoch y gellwch wneuthur da iddynt hwy: ond myfi ni chewch bob amser.
8 Hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth: hi a achubodd y blaen i eneinio fy nghorff erbyn y claddedigaeth.
9 Yn wir meddaf i chwi, Pa le bynnag y pregether yr efengyl hon yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd a adroddir er coffa amdani.
10 A Jwdas Iscariot, un o'r deuddeg, a aeth ymaith at yr archoffeiriaid, i'w fradychu ef iddynt.
11 A phan glywsant, fe fu lawen ganddynt, ac a addawsant roi arian iddo. Yntau a geisiodd pa fodd y gallai yn gymwys ei fradychu ef.
12 A'r dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, pan aberthent y pasg, dywedodd ei ddisgyblion wrtho, I ba le yr wyt ti yn ewyllysio i ni fyned i baratoi i ti, i fwyta'r pasg?
13 Ac efe a anfonodd ddau o'i ddisgyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i'r ddinas; a chyferfydd â chwi ddyn yn dwyn ystenaid o ddwfr: dilynwch ef.