2 Ac yn y man llawer a ymgasglasant ynghyd, hyd na annent hyd yn oed yn y lleoedd ynghylch y drws: ac efe a bregethodd y gair iddynt hwy.
3 A daethant ato, gan ddwyn un claf o'r parlys, yr hwn a ddygid gan bedwar.
4 A chan na allent nesáu ato gan y dyrfa, didoi'r to a wnaethant lle yr oedd efe: ac wedi iddynt dorri trwodd, hwy a ollyngasant i waered y gwely yn yr hwn y gorweddai'r claf o'r parlys.
5 A phan welodd yr Iesu eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrth y claf o'r parlys, Ha fab, maddeuwyd i ti dy bechodau.
6 Ac yr oedd rhai o'r ysgrifenyddion yn eistedd yno, ac yn ymresymu yn eu calonnau,
7 Beth a wna hwn fel hyn yn dywedyd cabledd? pwy a all faddau pechodau, ond Duw yn unig?
8 Ac yn ebrwydd, pan wybu'r Iesu yn ei ysbryd eu bod hwy yn ymresymu felly ynddynt eu hunain, efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ymresymu am y pethau hyn yn eich calonnau?