20 Eithr y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodasfab oddi arnynt; ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny.
21 Hefyd ni wnïa neb ddernyn o frethyn newydd ar ddilledyn hen: os amgen, ei gyflawniad newydd ef a dynn oddi wrth yr hen, a gwaeth fydd y rhwyg.
22 Ac ni rydd neb win newydd mewn hen gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia'r costrelau, a'r gwin a red allan, a'r costrelau a gollir: eithr gwin newydd sydd raid ei roi mewn costrelau newyddion.
23 A bu iddo fyned trwy'r ŷd ar y Saboth; a'i ddisgyblion a ddechreuasant ymdaith gan dynnu'r tywys.
24 A'r Phariseaid a ddywedasant wrtho, Wele, paham y gwnânt ar y Saboth yr hyn nid yw gyfreithlon?
25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch erioed beth a wnaeth Dafydd, pan oedd angen a chwant bwyd arno, efe a'r rhai oedd gydag ef?
26 Pa fodd yr aeth efe i dŷ Dduw, dan Abiathar yr archoffeiriad, ac y bwytaodd y bara gosod, y rhai nid cyfreithlon eu bwyta, ond i'r offeiriaid yn unig, ac a'u rhoddes hefyd i'r rhai oedd gydag ef