25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch erioed beth a wnaeth Dafydd, pan oedd angen a chwant bwyd arno, efe a'r rhai oedd gydag ef?
26 Pa fodd yr aeth efe i dŷ Dduw, dan Abiathar yr archoffeiriad, ac y bwytaodd y bara gosod, y rhai nid cyfreithlon eu bwyta, ond i'r offeiriaid yn unig, ac a'u rhoddes hefyd i'r rhai oedd gydag ef
27 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y Saboth a wnaethpwyd er mwyn dyn, ac nid dyn er mwyn y Saboth:
28 Am hynny y mae Mab y dyn yn Arglwydd hefyd ar y Saboth.