8 Ac yn ebrwydd, pan wybu'r Iesu yn ei ysbryd eu bod hwy yn ymresymu felly ynddynt eu hunain, efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ymresymu am y pethau hyn yn eich calonnau?
9 Pa un sydd hawsaf, ai dywedyd wrth y claf o'r parlys, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a chymer i fyny dy wely, a rhodia?
10 Eithr fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod i faddau pechodau ar y ddaear, (eb efe wrth y claf o'r parlys,)
11 Wrthyt ti yr wyf yn dywedyd, Cyfod, a chymer i fyny dy wely, a dos i'th dŷ.
12 Ac yn y man y cyfododd efe, ac y cymerth i fyny ei wely, ac a aeth allan yn eu gŵydd hwynt oll; hyd oni synnodd pawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Ni welsom ni erioed fel hyn.
13 Ac efe a aeth allan drachefn wrth lan y môr: a'r holl dyrfa a ddaeth ato; ac efe a'u dysgodd hwynt.
14 Ac efe yn myned heibio, efe a ganfu Lefi fab Alffeus yn eistedd wrth y dollfa, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe a gododd, ac a'i canlynodd ef.