1 Ac efe a aeth i mewn drachefn i'r synagog; ac yr oedd yno ddyn a chanddo law wedi gwywo.
2 A hwy a'i gwyliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Saboth; fel y cyhuddent ef.
3 Ac efe a ddywedodd wrth y dyn yr oedd ganddo'r llaw wedi gwywo, Cyfod i'r canol.
4 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Ai rhydd gwneuthur da ar y dydd Saboth, ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai lladd? A hwy a dawsant â sôn.
5 Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddicllon, gan dristáu am galedrwydd eu calon hwynt, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law. Ac efe a'i hestynnodd: a'i law ef a wnaed yn iach fel y llall.
6 A'r Phariseaid a aethant allan, ac a ymgyngorasant yn ebrwydd gyda'r Herodianiaid yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef.
7 A'r Iesu gyda'i ddisgyblion a giliodd tua'r môr: a lliaws mawr a'i canlynodd ef, o Galilea, ac o Jwdea,