15 Ac i fod ganddynt awdurdod i iacháu clefydau, ac i fwrw allan gythreuliaid.
16 Ac i Simon y rhoddes efe enw Pedr;
17 Ac Iago fab Sebedeus, ac Ioan brawd Iago, (ac efe a roddes iddynt enwau, Boanerges; yr hyn yw, Meibion y daran;)
18 Ac Andreas, a Philip, a Bartholomeus, a Mathew, a Thomas, ac Iago fab Alffeus, a Thadeus, a Simon y Canaanead,
19 A Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a'i bradychodd ef. A hwy a ddaethant i dŷ.
20 A'r dyrfa a ymgynullodd drachefn, fel na allent gymaint â bwyta bara.
21 A phan glybu'r eiddo ef, hwy a aethant i'w ddal ef: canys dywedasant, Y mae ef allan o'i bwyll.