22 A'r ysgrifenyddion, y rhai a ddaethent i waered o Jerwsalem, a ddywedasant fod Beelsebub ganddo, ac mai trwy bennaeth y cythreuliaid yr oedd efe yn bwrw allan gythreuliaid.
23 Ac wedi iddo eu galw hwy ato, efe a ddywedodd wrthynt mewn damhegion, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan?
24 Ac o bydd teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas honno sefyll.
25 Ac o bydd tŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni ddichon y tŷ hwnnw sefyll.
26 Ac os Satan a gyfyd yn ei erbyn ei hun, ac a fydd wedi ymrannu, ni all efe sefyll, eithr y mae iddo ddiwedd.
27 Ni ddichon neb fyned i mewn i dŷ'r cadarn, ac ysbeilio ei ddodrefn ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo'r cadarn; ac yna yr ysbeilia ei dŷ ef.
28 Yn wir y dywedaf i chwi, y maddeuir pob pechod i feibion dynion, a pha gabledd bynnag a gablant: