26 Ac os Satan a gyfyd yn ei erbyn ei hun, ac a fydd wedi ymrannu, ni all efe sefyll, eithr y mae iddo ddiwedd.
27 Ni ddichon neb fyned i mewn i dŷ'r cadarn, ac ysbeilio ei ddodrefn ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo'r cadarn; ac yna yr ysbeilia ei dŷ ef.
28 Yn wir y dywedaf i chwi, y maddeuir pob pechod i feibion dynion, a pha gabledd bynnag a gablant:
29 Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant yn dragywydd, ond y mae yn euog o farn dragywydd:
30 Am iddynt ddywedyd, Y mae ysbryd aflan ganddo.
31 Daeth gan hynny ei frodyr ef a'i fam; a chan sefyll allan, hwy a anfonasant ato, gan ei alw ef.
32 A'r bobl oedd yn eistedd o'i amgylch, ac a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy fam di a'th frodyr allan yn dy geisio.