31 Daeth gan hynny ei frodyr ef a'i fam; a chan sefyll allan, hwy a anfonasant ato, gan ei alw ef.
32 A'r bobl oedd yn eistedd o'i amgylch, ac a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy fam di a'th frodyr allan yn dy geisio.
33 Ac efe a'u hatebodd hwynt, gan ddywedyd, Pwy yw fy mam i, neu fy mrodyr i?
34 Ac wedi iddo edrych oddi amgylch ar y rhai oedd yn eistedd yn ei gylch, efe a ddywedodd, Wele fy mam i, a'm brodyr i.
35 Canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw, hwnnw yw fy mrawd i, a'm chwaer, a'm mam i.