7 A'r Iesu gyda'i ddisgyblion a giliodd tua'r môr: a lliaws mawr a'i canlynodd ef, o Galilea, ac o Jwdea,
8 Ac o Jerwsalem, ac o Idumea, ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen; a'r rhai o gylch Tyrus a Sidon, lliaws mawr, pan glywsant gymaint a wnaethai efe, a ddaethant ato.
9 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion am fod llong yn barod iddo, oblegid y dyrfa, rhag iddynt ei wasgu ef.
10 Canys efe a iachasai lawer, hyd oni phwysent arno, er mwyn cyffwrdd ag ef, cynifer ag oedd â phlâu arnynt.
11 A'r ysbrydion aflan, pan welsant ef, a syrthiasant i lawr ger ei fron ef, ac a waeddasant, gan ddywedyd, Ti yw Mab Duw.
12 Yntau a orchmynnodd iddynt yn gaeth, na chyhoeddent ef.
13 Ac efe a esgynnodd i'r mynydd, ac a alwodd ato y rhai a fynnodd efe: a hwy a ddaethant ato.