9 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion am fod llong yn barod iddo, oblegid y dyrfa, rhag iddynt ei wasgu ef.
10 Canys efe a iachasai lawer, hyd oni phwysent arno, er mwyn cyffwrdd ag ef, cynifer ag oedd â phlâu arnynt.
11 A'r ysbrydion aflan, pan welsant ef, a syrthiasant i lawr ger ei fron ef, ac a waeddasant, gan ddywedyd, Ti yw Mab Duw.
12 Yntau a orchmynnodd iddynt yn gaeth, na chyhoeddent ef.
13 Ac efe a esgynnodd i'r mynydd, ac a alwodd ato y rhai a fynnodd efe: a hwy a ddaethant ato.
14 Ac efe a ordeiniodd ddeuddeg, fel y byddent gydag ef, ac fel y danfonai efe hwynt i bregethu;
15 Ac i fod ganddynt awdurdod i iacháu clefydau, ac i fwrw allan gythreuliaid.