13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni wyddoch chwi'r ddameg hon? a pha fodd y gwybyddwch yr holl ddamhegion?
14 Yr heuwr sydd yn hau'r gair.
15 A'r rhai hyn yw'r rhai ar fin y ffordd, lle yr heuir y gair; ac wedi iddynt ei glywed, y mae Satan yn dyfod yn ebrwydd, ac yn dwyn ymaith y gair a heuwyd yn eu calonnau hwynt.
16 A'r rhai hyn yr un ffunud yw'r rhai a heuir ar y creigle; y rhai, wedi clywed y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef yn llawen;
17 Ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros amser y maent: yna, pan ddêl blinder neu erlid o achos y gair, yn y man y rhwystrir hwynt.
18 A'r rhai hyn yw'r rhai a heuwyd ymysg y drain; y rhai a wrandawant y gair,
19 Ac y mae gofalon y byd hwn, a hudoliaeth golud, a chwantau am bethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu'r gair, a myned y mae yn ddiffrwyth.