18 A'r rhai hyn yw'r rhai a heuwyd ymysg y drain; y rhai a wrandawant y gair,
19 Ac y mae gofalon y byd hwn, a hudoliaeth golud, a chwantau am bethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu'r gair, a myned y mae yn ddiffrwyth.
20 A'r rhai hyn yw'r rhai a heuwyd mewn tir da; y rhai sydd yn gwrando y gair, ac yn ei dderbyn, ac yn dwyn ffrwyth, un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant.
21 Ac efe a ddywedodd wrthynt, A ddaw cannwyll i'w dodi dan lestr, neu dan wely? ac nid i'w gosod ar ganhwyllbren?
22 Canys nid oes dim cuddiedig, a'r nis amlygir; ac ni bu ddim dirgel, ond fel y delai i eglurdeb.
23 Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed.
24 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandawoch. A pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau; a chwanegir i chwi, y rhai a wrandewch.