21 Ac efe a ddywedodd wrthynt, A ddaw cannwyll i'w dodi dan lestr, neu dan wely? ac nid i'w gosod ar ganhwyllbren?
22 Canys nid oes dim cuddiedig, a'r nis amlygir; ac ni bu ddim dirgel, ond fel y delai i eglurdeb.
23 Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed.
24 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandawoch. A pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau; a chwanegir i chwi, y rhai a wrandewch.
25 Canys yr hwn y mae ganddo, y rhoddir iddo: a'r hwn nid oes ganddo, ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno.
26 Ac efe a ddywedodd, Felly y mae teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn had i'r ddaear;
27 A chysgu, a chodi nos a dydd, a'r had yn egino ac yn tyfu, y modd nis gŵyr efe.