27 A chysgu, a chodi nos a dydd, a'r had yn egino ac yn tyfu, y modd nis gŵyr efe.
28 Canys y ddaear a ddwg ffrwyth ohoni ei hun; yn gyntaf yr eginyn, ar ôl hynny y dywysen, yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen.
29 A phan ymddangoso'r ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y cryman ynddo, am ddyfod y cynhaeaf.
30 Ac efe a ddywedodd, I ba beth y cyffelybem deyrnas Dduw? neu ar ba ddameg y gwnaem gyffelybrwydd ohoni?
31 Megis gronyn o had mwstard ydyw, yr hwn pan heuer yn y ddaear, sydd leiaf o'r holl hadau sydd ar y ddaear;
32 Eithr wedi yr heuer, y mae yn tyfu, ac yn myned yn fwy na'r holl lysiau, ac efe a ddwg ganghennau mawrion; fel y gallo ehediaid yr awyr nythu dan ei gysgod ef.
33 Ac â chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair, hyd y gallent ei wrando: