31 Megis gronyn o had mwstard ydyw, yr hwn pan heuer yn y ddaear, sydd leiaf o'r holl hadau sydd ar y ddaear;
32 Eithr wedi yr heuer, y mae yn tyfu, ac yn myned yn fwy na'r holl lysiau, ac efe a ddwg ganghennau mawrion; fel y gallo ehediaid yr awyr nythu dan ei gysgod ef.
33 Ac â chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair, hyd y gallent ei wrando:
34 Ond heb ddameg ni lefarodd wrthynt: ac o'r neilltu i'w ddisgyblion efe a eglurodd bob peth.
35 Ac efe a ddywedodd wrthynt y dwthwn hwnnw, wedi ei hwyrhau hi, Awn trosodd i'r tu draw.
36 Ac wedi iddynt ollwng ymaith y dyrfa, hwy a'i cymerasant ef fel yr oedd yn y llong: ac yr oedd hefyd longau eraill gydag ef.
37 Ac fe a gyfododd tymestl fawr o wynt, a'r tonnau a daflasant i'r llong, hyd onid oedd hi yn llawn weithian.