6 A phan gododd yr haul, y poethwyd ef; ac am nad oedd gwreiddyn iddo, efe a wywodd.
7 A pheth a syrthiodd ymhlith drain; a'r drain a dyfasant, ac a'i tagasant ef, ac ni ddug ffrwyth.
8 A pheth arall a syrthiodd mewn tir da, ac a roddes ffrwyth tyfadwy a chynhyrchiol, ac a ddug un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant.
9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.
10 A phan oedd efe wrtho'i hun, y rhai oedd yn ei gylch ef gyda'r deuddeg a ofynasant iddo am y ddameg.
11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, I chwi y rhodded gwybod dirgelwch teyrnas Dduw: eithr i'r rhai sydd allan, ar ddamhegion y gwneir pob peth:
12 Fel yn gweled y gwelant, ac na chanfyddant; ac yn clywed y clywant, ac ni ddeallant; rhag iddynt ddychwelyd, a maddau iddynt eu pechodau.