1 A hwy a ddaethant i'r tu hwnt i'r môr, i wlad y Gadareniaid.
2 Ac ar ei ddyfodiad ef allan o'r llong, yn y man cyfarfu ag ef o blith y beddau, ddyn ag ysbryd aflan ynddo,
3 Yr hwn oedd â'i drigfan ymhlith y beddau; ac ni allai neb, ie, â chadwynau, ei rwymo ef:
4 Oherwydd ei rwymo ef yn fynych â llyffetheiriau, ac â chadwynau, a darnio ohono'r cadwynau, a dryllio'r llyffetheiriau: ac ni allai neb ei ddofi ef.
5 Ac yn wastad nos a dydd yr oedd efe yn llefain yn y mynyddoedd, ac ymhlith y beddau, ac yn ei dorri ei hun â cherrig.
6 Ond pan ganfu efe yr Iesu o hirbell, efe a redodd, ac a'i haddolodd ef;
7 A chan weiddi â llef uchel, efe a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, Iesu Mab y Duw goruchaf? yr ydwyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenech fi.