11 Ond yr oedd yno ar y mynyddoedd genfaint fawr o foch yn pori.
12 A'r holl gythreuliaid a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Danfon ni i'r moch, fel y gallom fyned i mewn iddynt.
13 Ac yn y man y caniataodd yr Iesu iddynt. A'r ysbrydion aflan, wedi myned allan, a aethant i mewn i'r moch: a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r môr (ac ynghylch dwy fil oeddynt) ac a'u boddwyd yn y môr.
14 A'r rhai a borthent y moch a ffoesant, ac a fynegasant y peth yn y ddinas, ac yn y wlad: a hwy a aethant allan i weled beth oedd hyn a wnaethid.
15 A hwy a ddaethant at yr Iesu, ac a welsant y cythreulig, yr hwn y buasai'r lleng ynddo, yn eistedd, ac yn ei ddillad, ac yn ei iawn bwyll; ac a ofnasant.
16 A'r rhai a welsant a fynegasant iddynt, pa fodd y buasai i'r cythreulig, ac am y moch.
17 A dechreuasant ddymuno arno ef fyned ymaith o'u goror hwynt.