5 Ac yn wastad nos a dydd yr oedd efe yn llefain yn y mynyddoedd, ac ymhlith y beddau, ac yn ei dorri ei hun â cherrig.
6 Ond pan ganfu efe yr Iesu o hirbell, efe a redodd, ac a'i haddolodd ef;
7 A chan weiddi â llef uchel, efe a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, Iesu Mab y Duw goruchaf? yr ydwyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenech fi.
8 (Canys dywedasai wrtho, Ysbryd aflan, dos allan o'r dyn.)
9 Ac efe a ofynnodd iddo, Beth yw dy enw? Yntau a atebodd, gan ddywedyd, Lleng yw fy enw; am fod llawer ohonom.
10 Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, na yrrai efe hwynt allan o'r wlad.
11 Ond yr oedd yno ar y mynyddoedd genfaint fawr o foch yn pori.