22 Lladradau, cybydd‐dod, drygioni, twyll, anlladrwydd, drwg lygad, cabledd, balchder, ynfydrwydd:
23 Yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod oddi mewn, ac yn halogi dyn.
24 Ac efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i gyffiniau Tyrus a Sidon; ac a aeth i mewn i dŷ, ac ni fynasai i neb wybod: eithr ni allai efe fod yn guddiedig.
25 Canys pan glybu gwraig, yr hon yr oedd ei merch fechan ag ysbryd aflan ynddi, sôn amdano, hi a ddaeth ac a syrthiodd wrth ei draed ef:
26 (A Groeges oedd y wraig, Syroffeniciad o genedl.) A hi a atolygodd iddo fwrw'r cythraul allan o'i merch.
27 A'r Iesu a ddywedodd wrthi, Gad yn gyntaf i'r plant gael eu digoni: canys nid cymwys yw cymryd bara'r plant, a'i daflu i'r cenawon cŵn.
28 Hithau a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Gwir, O Arglwydd: ac eto y mae'r cenawon dan y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant.